8. A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a'r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith.
9. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a'n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.
10. A'r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a'u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ:
11. Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a'r gist â'r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.
12. A'r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua'r llaw ddeau na thua'r aswy; ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.
13. A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.
14. A'r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r Arglwydd.
15. A'r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a'r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a'u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i'r Arglwydd y dydd hwnnw.
16. A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.
17. A dyma'r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i'r Arglwydd; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un: