Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd.

2. A'r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

3. Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y'ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.

4. Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi'r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi.

5. Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno'r tir; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.

6. A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?

7. Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ:

8. A chymerwch arch yr Arglwydd, a rhoddwch hi ar y fen; a'r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith.

9. Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a'n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

10. A'r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a'u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ:

11. Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a'r gist â'r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.

12. A'r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua'r llaw ddeau na thua'r aswy; ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.

13. A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.

14. A'r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r Arglwydd.

15. A'r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a'r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a'u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i'r Arglwydd y dydd hwnnw.

16. A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

17. A dyma'r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i'r Arglwydd; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:

18. A'r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i'r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a'r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.

19. Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd, ie, trawodd o'r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A'r bobl a alarasant, am i'r Arglwydd daro'r bobl â lladdfa fawr.

20. A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?

21. A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.