Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen, a'r gist â'r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.

12. A'r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua'r llaw ddeau na thua'r aswy; ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.

13. A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.

14. A'r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r Arglwydd.

15. A'r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd, a'r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a'u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i'r Arglwydd y dydd hwnnw.

16. A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

17. A dyma'r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i'r Arglwydd; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:

18. A'r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i'r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a'r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.

19. Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd, ie, trawodd o'r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A'r bobl a alarasant, am i'r Arglwydd daro'r bobl â lladdfa fawr.

20. A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?

21. A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 6