7. Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.
8. Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
9. Traed ei saint a geidw efe, a'r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.
10. Y rhai a ymrysonant â'r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o'r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i'w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.
11. Ac Elcana a aeth i Rama i'w dŷ; a'r bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad.
12. A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr Arglwydd.
13. A defod yr offeiriad gyda'r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law;
14. Ac a'i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.