Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di.

2. Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni.

3. Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o'ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a'i amcanion ef a gyflawnir.

4. Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a'r gweiniaid a ymwregysasant â nerth.

5. Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.

6. Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i'r bedd, ac yn dwyn i fyny.

7. Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.

8. Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.

9. Traed ei saint a geidw efe, a'r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.

10. Y rhai a ymrysonant â'r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o'r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i'w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.

11. Ac Elcana a aeth i Rama i'w dŷ; a'r bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad.

12. A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr Arglwydd.

13. A defod yr offeiriad gyda'r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law;

14. Ac a'i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.

15. Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i'w rostio i'r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.

16. Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a'i cymeraf trwy gryfder.

17. Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd.

18. A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.

19. A'i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a'i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda'i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.

20. Ac Eli a fendithiodd Elcana a'i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr Arglwydd i ti had o'r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd. A hwy a aethant i'w mangre eu hun.

21. A'r Arglwydd a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a'r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd.

22. Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.

24. Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu.

25. Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt.

26. A'r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.

27. A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?

28. Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel?

29. Paham y sethrwch chwi fy aberth a'm bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?

30. Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o'm blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir.

31. Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.

32. A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.

33. A'r gŵr o'r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34. A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.

35. A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a'm meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.

36. A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.