Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2:27-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?

28. Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel?

29. Paham y sethrwch chwi fy aberth a'm bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?

30. Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o'm blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir.

31. Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.

32. A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.

33. A'r gŵr o'r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34. A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.

35. A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a'm meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.

36. A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 2