17. Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd.
18. A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.
19. A'i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a'i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda'i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.
20. Ac Eli a fendithiodd Elcana a'i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr Arglwydd i ti had o'r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd. A hwy a aethant i'w mangre eu hun.
21. A'r Arglwydd a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a'r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd.
22. Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
23. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.
24. Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu.
25. Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt.
26. A'r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.