Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 18:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a'i carodd ef megis ei enaid ei hun.

2. A Saul a'i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad.

3. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a'i carai megis ei enaid ei hun.

4. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a'i rhoddes i Dafydd, a'i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a'i fwa, a'i wregys.

5. A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a'i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.

6. A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â'r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.

7. A'r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.

8. A digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?

9. A bu Saul â'i lygad ar Dafydd o'r dydd hwnnw allan.

10. Bu hefyd drannoeth, i'r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â'i law, fel o'r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 18