1 Samuel 18:6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â'r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.