6. A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni: canys nid oes rwystr i'r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig.
7. A'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.
8. Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.
9. Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.
10. Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.
11. A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa'r Philistiaid. A'r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o'r tyllau y llechasant ynddynt.
12. A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr Arglwydd a'u rhoddes hwynt yn llaw Israel.
13. A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef.
14. A'r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir.
15. A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a'r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn Duw.
16. A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro.