A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr Arglwydd a'u rhoddes hwynt yn llaw Israel.