35. A Saul a adeiladodd allor i'r Arglwydd. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i'r Arglwydd.
36. A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at Dduw.
37. Ac ymofynnodd Saul â Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw.
38. A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw.
39. Canys, megis mai byw yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o'r holl bobl ef.
40. Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg.
41. Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd.
42. Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan.
43. Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?
44. Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled Duw i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan.
45. A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt ei ben ef i'r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A'r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.
46. Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a'r Philistiaid a aethant i'w lle eu hun.