A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt ei ben ef i'r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A'r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.