3. Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.
4. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
5. A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:
6. Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,
7. A Noga, a Neffeg, a Jaffia,
8. Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.
9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.