1. Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles:
2. Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith:
3. Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.
4. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
5. A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:
6. Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,
7. A Noga, a Neffeg, a Jaffia,
8. Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.
9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.
10. A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;
11. Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;
12. Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;
13. Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;