7. A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8. A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.
9. A'r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
10. Y trydydd i Saccur; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
11. Y pedwerydd i Isri; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
12. Y pumed i Nethaneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
13. Y chweched i Bucceia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
14. Y seithfed i Jesarela; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
15. Yr wythfed i Jesaia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
16. Y nawfed i Mataneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.