6. Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.
7. A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8. A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.
9. A'r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
10. Y trydydd i Saccur; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
11. Y pedwerydd i Isri; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
12. Y pumed i Nethaneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
13. Y chweched i Bucceia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
14. Y seithfed i Jesarela; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
15. Yr wythfed i Jesaia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
16. Y nawfed i Mataneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
17. Y degfed i Simei; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.
18. Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.