A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a'r tŷ a adeiledir i'r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.