7. A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor.
8. A rhai o'r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i'r amddiffynfa i'r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy.
9. Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd,
10. Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed,
11. Attai y chweched, Eliel y seithfed,
12. Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed,
13. Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.
14. Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a'r mwyaf ar fil.
15. Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua'r dwyrain, a thua'r gorllewin.
16. A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i'r amddiffynfa at Dafydd.
17. A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
18. A'r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a'u croesawodd hwynt, ac a'u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
19. A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda'r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
20. Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.
21. A'r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.