Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 12:30-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.

31. Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.

32. Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a'u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.

33. O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.

34. Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.

35. Ac o'r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

36. Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela.

37. Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

38. Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.

39. A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy.

40. A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 12