Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 12:24-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel.

25. O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.

26. O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant.

27. A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.

28. Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid.

29. Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.

30. Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.

31. Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.

32. Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a'u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.

33. O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.

34. Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.

35. Ac o'r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

36. Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela.

37. Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

38. Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 12