16. A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i'r amddiffynfa at Dafydd.
17. A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.
18. A'r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a'u croesawodd hwynt, ac a'u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.
19. A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda'r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.
20. Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.
21. A'r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.
22. Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i'w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.
23. A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd.
24. O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel.
25. O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.
26. O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant.
27. A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.
28. Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid.
29. Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.