Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 11:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10. Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i'w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd.

11. A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.

12. Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o'r tri chadarn.

13. Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a'r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o'r maes yn llawn haidd, a'r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.

14. A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15. A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i'r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

16. A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem.

17. A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

18. A'r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant ac a'i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a'i diodoffrymodd ef i'r Arglwydd:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 11