Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlad hon, ac i'r tŷ yma?

9. A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a'u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.

10. Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin,

11. (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.

12. A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.

13. Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a'u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.

14. A Hiram a anfonodd i'r brenin chwech ugain talent o aur.

15. A dyma swm y dreth a gododd y brenin Solomon, i adeiladu tŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerwsalem, Hasor, a Megido, a Geser.

16. Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a'i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasai hi yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon.

17. A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf,

18. A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 9