Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a'm barnedigaethau:

5. Yna mi a sicrhaf orseddfainc dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lleferais wrth Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni phalla i ti ŵr ar orseddfainc Israel.

6. Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a'ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a'm deddfau, y rhai a roddais o'ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

7. Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy; a'r tŷ hwn a gysegrais i'm henw, a fwriaf allan o'm golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd:

8. A'r tŷ uchel hwn, pawb a gyniweiro heibio iddo, a synna wrtho, ac a chwibana; dywedant hefyd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlad hon, ac i'r tŷ yma?

9. A hwy a ddywedant, Am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddug eu tadau hwynt allan o dir yr Aifft, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a'u gwasanaethu hwynt; am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.

10. Ac ymhen yr ugain mlynedd, wedi adeiladu o Solomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin,

11. (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Solomon goed cedr, a choed ffynidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef,) y brenin Solomon a roddes i Hiram ugain dinas yng ngwlad Galilea.

12. A Hiram a ddaeth o Tyrus i edrych y dinasoedd a roddasai Solomon iddo ef; ac nid oeddynt wrth ei fodd ef.

13. Ac efe a ddywedodd, Pa ddinasoedd yw y rhai hyn a roddaist i mi, fy mrawd? Ac efe a'u galwodd hwynt Gwlad Cabul, hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 9