Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9:16-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a'i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasai hi yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon.

17. A Solomon a adeiladodd Geser, a Beth‐horon isaf,

18. A Baalath, a Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad,

19. A holl ddinasoedd y trysorau y rhai oedd gan Solomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch, a'r hyn oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei lywodraeth.

20. Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel;

21. Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cyfododd Solomon dreth wrogaeth hyd y dydd hwn.

22. Ond o feibion Israel ni wnaeth Solomon un yn gaethwas: rhyfelwyr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteiniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau a'i wŷr meirch.

23. Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.

24. A merch Pharo a ddaeth i fyny o ddinas Dafydd i'w thŷ ei hun, yr hwn a adeiladasai Solomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.

25. A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymai Solomon boethoffrymau ac offrymau hedd ar yr allor a adeiladasai efe i'r Arglwydd: ac efe a arogldarthodd ar yr allor oedd gerbron yr Arglwydd. Felly efe a orffennodd y tŷ.

26. A'r brenin Solomon a wnaeth longau yn Esion‐gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fin y môr coch, yng ngwlad Edom.

27. A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd longwyr yn medru oddi wrth y môr, gyda gweision Solomon.

28. A hwy a ddaethant i Offir, ac a ddygasant oddi yno bedwar cant ac ugain o dalentau aur, ac a'u dygasant at y brenin Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 9