19. Eto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaw allan o'th lwynau di, efe a adeilada y tŷ i'm henw i.
20. A'r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.
21. A mi a osodais yno le i'r arch, yr hon y mae ynddi gyfamod yr Arglwydd, yr hwn a gyfamododd efe â'n tadau ni, pan ddug efe hwynt allan o wlad yr Aifft.
22. A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua'r nefoedd:
23. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â'u holl galon;
24. Yr hwn a gedwaist â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â'th enau, a chwblheaist â'th law, megis heddiw y mae.
25. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron.
26. Ac yn awr, O Dduw Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad.
27. Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i!