Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron.