Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 5:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a'm gweision i a fyddant gyda'th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.

7. A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.

8. A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.

9. Fy ngweision a'u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a'u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i'm teulu i.

10. Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.

11. A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i'w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.

12. A'r Arglwydd a roddes ddoethineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.

13. A'r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a'r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.

14. Ac efe a'u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.

15. Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;

16. Heb law pen‐swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.

17. A'r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.

18. Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a'r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu'r tŷ.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 5