Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:21-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.

22. A'r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.

23. A'r brenin Solomon a dyngodd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.

24. Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a'm sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.

25. A'r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

26. Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.

27. Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i'r Arglwydd; fel y cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.

28. A'r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr Arglwydd, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.

29. A mynegwyd i'r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.

30. A daeth Benaia i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn'y dywedodd Joab, ac fel hyn y'm hatebodd.

31. A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.

32. A'r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a'u lladdodd hwynt â'r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.

33. A'u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i'w had, ac i'w dŷ, ac i'w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.

34. Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.

35. A'r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A'r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36. A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.

37. Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.

38. A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.

39. Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2