Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.