Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.