Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:23-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Adrodd wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,

24. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr Arglwydd.

25. Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeiladodd Penuel.

26. A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd.

27. Os â y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda.

28. Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

29. Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan.

30. A'r peth hyn a aeth yn bechod: oblegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan.

31. Ac efe a wnaeth dŷ uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.

32. A Jeroboam a wnaeth uchel ŵyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, fel yr uchel ŵyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i'r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaethai efe.

33. Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel ŵyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogldarthu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12