A'r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.