Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 24:30-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. “A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr.

31. Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.

32. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.

33. Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.

34. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.

35. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

36. “Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.

37. Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

38. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,

39. ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

40. Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.

41. Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.

42. Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.

43. Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 24