Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Rhagfynegi Dinistr y Deml

1. Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.

2. Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”

Dechrau'r Gwewyr

3. Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?”

4. Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.

5. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer.

6. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.

7. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau.

8. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.

9. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.

10. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd.

11. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.

12. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.

13. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

14. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.

Y Gorthrymder Mawr

15. “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd)

16. “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

17. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;

18. a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.

19. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!

20. A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,

21. oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.

22. Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.

23. Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu.

24. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.

25. Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.

26. Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu.

27. Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.

28. Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.

Dyfodiad Mab y Dyn

29. “Yn union ar ôl gorthrymder y dyddiau hynny,“ ‘Tywyllir yr haul,ni rydd y lloer ei llewyrch,syrth y sêr o'r nef,ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.’

30. “A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr.

31. Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.

Gwers y Ffigysbren

32. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.

33. Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.

34. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.

35. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

Y Dydd a'r Awr Anhysbys

36. “Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.

37. Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

38. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,

39. ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

40. Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.

41. Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.

42. Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.

43. Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ.

44. Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.

Y Gwas Ffyddlon neu Anffyddlon

45. “Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?

46. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

47. yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

48. Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi’,

49. a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,

50. yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr;

51. ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.