Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ceisio Arwydd

1. Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.

2. Ond atebodd ef hwy, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’

3. Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.

4. Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.” A gadawodd hwy a mynd ymaith.

Surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid

5. Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara.

6. Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”

7. Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Ni ddaethom â bara.”

8. Deallodd Iesu a dywedodd, “Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?

9. Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?

10. Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?

11. Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”

12. Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu

13. Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?”

14. Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.”

15. “A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?”

16. Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.”

17. Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd.

18. Ac rwyf fi'n dweud wrthyt mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.

19. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.”

20. Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad

21. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.

22. A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.”

23. Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”

24. Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.

25. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.

26. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?

27. Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.

28. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”