Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:65-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

66. Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys

67. gan ddweud, “Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym.” Meddai yntau wrthynt, “Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu;

68. ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb.

69. O hyn allan bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.”

70. Meddent oll, “Ti felly yw Mab Duw?” Atebodd hwy, “Chwi sy'n dweud mai myfi yw.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22