Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Cynllwyn i Ladd Iesu

1. Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu.

2. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl.

3. Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg.

4. Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt.

5. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo.

6. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod.

Paratoi Gwledd y Pasg

7. Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg.

8. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.”

9. Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?”

10. Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo,

11. a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

12. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.”

13. Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

Sefydlu Swper yr Arglwydd

14. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef.

15. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef!

16. Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.”

17. Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd.

18. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.”

19. Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.”

20. Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.

21. Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd.

22. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!”

23. A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd p'run ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.

Y Ddadl ynglŷn â Mawredd

24. Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf?

25. Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr.

26. Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini.

27. Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini.

28. Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon.

29. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi;

30. cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.

Rhagfynegi Gwadiad Pedr

31. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;

32. ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.”

33. Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.”

34. “Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.”

Pwrs, Cod a Chleddyf

35. Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant.

36. Meddai yntau, “Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un.

37. Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.”

38. “Arglwydd,” atebasant hwy, “dyma ddau gleddyf.” Meddai yntau wrthynt, “Dyna ddigon.”

Y Weddi ar Fynydd yr Olewydd

39. Yna aeth allan, a cherdded yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd, a'i ddisgyblion hefyd yn ei ddilyn.

40. Pan gyrhaeddodd y fan, meddai wrthynt, “Gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”

41. Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo

42. gan ddweud, “O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.”

43. Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu.

44. Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.

45. Cododd o'i weddi a mynd at ei ddisgyblion a'u cael yn cysgu o achos eu gofid.

46. Meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”

Bradychu a Dal Iesu

47. Tra oedd yn dal i siarad, fe ymddangosodd tyrfa, a Jwdas, fel y'i gelwid, un o'r Deuddeg, ar ei blaen. Nesaodd ef at Iesu i'w gusanu.

48. Meddai Iesu wrtho, “Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?”

49. Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, “Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?”

50. Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd.

51. Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.

52. Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?

53. Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod.”

Pedr yn Gwadu Iesu

54. Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell.

55. Cyneuodd rhai dân yng nghanol y cyntedd, ac eistedd gyda'i gilydd. Eisteddodd Pedr yn eu plith.

56. Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.”

57. Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch.”

58. Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.”

59. Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.”

60. Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.

61. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.”

62. Aeth allan ac wylo'n chwerw.

Gwatwar a Churo Iesu

63. Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.

64. Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?”

65. A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

Iesu gerbron y Sanhedrin

66. Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys

67. gan ddweud, “Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym.” Meddai yntau wrthynt, “Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu;

68. ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb.

69. O hyn allan bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.”

70. Meddent oll, “Ti felly yw Mab Duw?” Atebodd hwy, “Chwi sy'n dweud mai myfi yw.”

71. Yna meddent, “Pa raid inni wrth dystiolaeth bellach? Oherwydd clywsom ein hunain y geiriau o'i enau ef.”