Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:58-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.”

59. Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.”

60. Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.

61. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22