Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:24-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf?

25. Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr.

26. Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini.

27. Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini.

28. Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon.

29. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi;

30. cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.

31. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;

32. ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.”

33. Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.”

34. “Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22