Hen Destament

Testament Newydd

Luc 19:46-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. gan ddweud wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.’ ”

47. Yr oedd yn dysgu o ddydd i ddydd yn y deml. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd ag arweinwyr y bobl, yn ceisio modd i'w ladd,

48. ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 19