Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Iesu a Sacheus

1. Yr oedd wedi dod i mewn i Jericho, ac yn mynd trwy'r dref.

2. Dyma ddyn o'r enw Sacheus, un oedd yn brif gasglwr trethi ac yn ŵr cyfoethog,

3. yn ceisio gweld p'run oedd Iesu; ond yr oedd yno ormod o dyrfa, ac yntau'n ddyn byr.

4. Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno.

5. Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw.”

6. Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen.

7. Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus.”

8. Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, “Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn ôl bedair gwaith.”

9. “Heddiw,” meddai Iesu wrtho, “daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau.

10. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.”

Dameg y Deg Darn Aur

11. Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith.

12. Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas.

13. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’

14. Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’

15. Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael.

16. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’

17. ‘Ardderchog, fy ngwas da,’ meddai yntau wrtho. ‘Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.’

18. Daeth yr ail gan ddweud, ‘Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.’

19. ‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’

20. Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach.

21. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’

22. ‘Â'th eiriau dy hun,’ atebodd ef, ‘y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.

23. Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.’

24. Yna meddai wrth y rhai oedd yno, ‘Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.’

25. ‘Meistr,’ meddent hwy wrtho, ‘y mae ganddo ddeg darn yn barod.’

26. Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt.

27. A'm gelynion, y rheini na fynnent fi yn frenin arnynt, dewch â hwy yma a lladdwch hwy yn fy ngŵydd.”

Yr Ymdaith Fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem

28. Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen.

29. Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion

30. gan ddweud, “Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.

31. Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, ‘Pam yr ydych yn ei ollwng?’, dywedwch fel hyn: ‘Y mae ar y Meistr ei angen.’ ”

32. Aeth y rhai a anfonwyd, a chael yr ebol, fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt.

33. Pan oeddent yn gollwng yr ebol, meddai ei berchenogion wrthynt, “Pam yr ydych yn gollwng yr ebol?”

34. Atebasant hwythau, “Y mae ar y Meistr ei angen,”

35. a daethant ag ef at Iesu. Yna taflasant eu mentyll ar yr ebol, a gosod Iesu ar ei gefn.

36. Wrth iddo fynd yn ei flaen, yr oedd pobl yn taenu eu mentyll ar y ffordd.

37. Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld,

38. gan ddweud:“Bendigedig yw'r un sy'n dodyn frenin yn enw'r Arglwydd;yn y nef, tangnefedd,a gogoniant yn y goruchaf.”

39. Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.”

40. Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.”

41. Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti

42. gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd—ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid.

43. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu.

44. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.”

Glanhau'r Deml

45. Aeth i mewn i'r deml a dechrau bwrw allan y rhai oedd yn gwerthu,

46. gan ddweud wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.’ ”

47. Yr oedd yn dysgu o ddydd i ddydd yn y deml. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd ag arweinwyr y bobl, yn ceisio modd i'w ladd,

48. ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.