Hen Destament

Testament Newydd

Luc 19:4-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno.

5. Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw.”

6. Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen.

7. Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus.”

8. Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, “Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn ôl bedair gwaith.”

9. “Heddiw,” meddai Iesu wrtho, “daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau.

10. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.”

11. Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith.

12. Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas.

13. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’

14. Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’

15. Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael.

16. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’

17. ‘Ardderchog, fy ngwas da,’ meddai yntau wrtho. ‘Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.’

18. Daeth yr ail gan ddweud, ‘Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.’

19. ‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’

20. Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach.

21. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’

Darllenwch bennod gyflawn Luc 19