Hen Destament

Testament Newydd

Luc 19:37-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld,

38. gan ddweud:“Bendigedig yw'r un sy'n dodyn frenin yn enw'r Arglwydd;yn y nef, tangnefedd,a gogoniant yn y goruchaf.”

39. Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.”

40. Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.”

41. Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti

42. gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd—ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid.

43. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu.

44. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.”

45. Aeth i mewn i'r deml a dechrau bwrw allan y rhai oedd yn gwerthu,

46. gan ddweud wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi,ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.’ ”

47. Yr oedd yn dysgu o ddydd i ddydd yn y deml. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd ag arweinwyr y bobl, yn ceisio modd i'w ladd,

48. ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 19