10. Dyma Pilat felly yn gofyn iddo, “Onid wyt ti am siarad â mi? Oni wyddost fod gennyf awdurdod i'th ryddhau di, a bod gennyf awdurdod hefyd i'th groeshoelio di?”
11. Atebodd Iesu ef, “Ni fyddai gennyt ddim awdurdod arnaf fi oni bai ei fod wedi ei roi iti oddi uchod. Gan hynny, y mae'r hwn a'm trosglwyddodd i ti yn euog o bechod mwy.”
12. O hyn allan, ceisiodd Pilat ei ryddhau ef. Ond gwaeddodd yr Iddewon: “Os wyt yn rhyddhau'r dyn hwn, nid wyt yn gyfaill i Gesar. Y mae pob un sy'n ei wneud ei hun yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn Cesar.”
13. Pan glywodd Pilat y geiriau hyn, daeth â Iesu allan, ac eisteddodd ar y brawdle yn y lle a elwir Y Palmant (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha).
14. Dydd Paratoad y Pasg oedd hi, tua hanner dydd. A dywedodd Pilat wrth yr Iddewon, “Dyma eich brenin.”
15. Gwaeddasant hwythau, “Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?” Atebodd y prif offeiriaid, “Nid oes gennym frenin ond Cesar.”
16. Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio.Felly cymerasant Iesu.
17. Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
18. Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.