Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”

21. Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i.”

22. Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sôn.

23. Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 13