Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Golchi Traed y Disgyblion

1. Ar drothwy gŵyl y Pasg, yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â'r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf.

2. Yn ystod swper, pan oedd y diafol eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas fab Simon Iscariot y bwriad i'w fradychu ef,

3. dyma Iesu, ac yntau'n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dod oddi wrth Dduw a'i fod yn mynd at Dduw,

4. yn codi o'r swper ac yn rhoi ei wisg o'r neilltu, yn cymryd tywel ac yn ei glymu am ei ganol.

5. Yna tywalltodd ddŵr i'r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel oedd am ei ganol.

6. Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?”

7. Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.”

8. Meddai Pedr wrtho, “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.”

9. “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.”

10. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.”

11. Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”

12. Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi?

13. Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi.

14. Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd.

15. Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi.

16. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd.

17. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.

18. Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.’

19. Yr wyf fi'n dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu, pan ddigwydd, mai myfi yw.

20. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”

Iesu'n Rhagfynegi ei Fradychu

21. Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i.”

22. Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sôn.

23. Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd.

24. A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sôn.

25. A dyma'r disgybl hwnnw yn pwyso'n ôl ar fynwes Iesu ac yn gofyn iddo, “Pwy yw ef, Arglwydd?”

26. Atebodd Iesu, “Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef.” Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot.

27. Ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw. Meddai Iesu wrtho, “Yr hyn yr wyt yn ei wneud, brysia i'w gyflawni.”

28. Nid oedd neb o'r cwmni wrth y bwrdd yn deall pam y dywedodd hynny wrtho.

29. Gan mai yng ngofal Jwdas yr oedd y god arian, tybiodd rhai fod Iesu wedi dweud wrtho, “Pryn y pethau y mae arnom eu heisiau at yr ŵyl”, neu am roi rhodd i'r tlodion.

30. Yn union wedi cymryd y tamaid bara aeth Jwdas allan. Yr oedd hi'n nos.

Y Gorchymyn Newydd

31. Ar ôl i Jwdas fynd allan dywedodd Iesu, “Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef.

32. Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith.

33. Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’

34. Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd.

35. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”

Rhagfynegi Gwadiad Pedr

36. Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd Iesu ef, “Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law.”

37. “Arglwydd,” gofynnodd Pedr iddo, “pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot.”

38. Atebodd Iesu, “A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.