Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef.

5. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.”

6. Dywedodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.

7. Felly dywedodd Iesu eto, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid.

8. Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.

9. Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.

10. Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.

11. Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.

12. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl.

13. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid.

14. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i,

15. yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.

16. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.

17. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith.

18. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10