Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dameg Corlan y Defaid

1. “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall.

2. Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid.

3. Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan.

4. Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef.

5. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.”

6. Dywedodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.

Iesu, y Bugail Da

7. Felly dywedodd Iesu eto, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid.

8. Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.

9. Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.

10. Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder.

11. Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.

12. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl.

13. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid.

14. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i,

15. yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.

16. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.

17. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith.

18. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”

19. Bu ymraniad eto ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn.

20. Yr oedd llawer ohonynt yn dweud, “Y mae cythraul ynddo, y mae'n wallgof. Pam yr ydych yn gwrando arno?”

21. Ond yr oedd eraill yn dweud, “Nid geiriau dyn â chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?”

Yr Iddewon yn Gwrthod Iesu

22. Yna daeth amser dathlu gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf,

23. ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon.

24. Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, “Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen.”

25. Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi.

26. Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i.

27. Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i.

28. Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i.

29. Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad.

30. Myfi a'r Tad, un ydym.”

31. Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef.

32. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos p'run ohonynt yr ydych am fy llabyddio?”

33. Atebodd yr Iddewon ef, “Nid am weithred dda yr ydym am dy labyddio, ond am gabledd, oherwydd dy fod ti, a thithau'n ddyn, yn dy wneud dy hun yn Dduw.”

34. Atebodd Iesu hwythau, “Onid yw'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, ‘Fe ddywedais i, “Duwiau ydych” ’?

35. Os galwodd ef y rhai hynny y daeth gair Duw atynt yn dduwiau—ac ni ellir diddymu'r Ysgrythur—

36. sut yr ydych chwi yn dweud, ‘Yr wyt yn cablu’, oherwydd fy mod i, yr un y mae'r Tad wedi ei gysegru a'i anfon i'r byd, wedi dweud, ‘Mab Duw ydwyf’?

37. Os nad wyf yn gwneud gweithredoedd fy Nhad, peidiwch â'm credu.

38. Ond os wyf yn eu gwneud, credwch y gweithredoedd, hyd yn oed os na chredwch fi, er mwyn ichwi ganfod a gwybod bod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”

39. Gwnaethant gais eto i'w ddal ef, ond llithrodd trwy eu dwylo hwy.

40. Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i'r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno.

41. Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir.”

42. A daeth llawer i gredu ynddo yn y lle hwnnw.